Os oes unrhyw beth nad ydych yn siŵr amdano o ran y Lwfans Myfyrwyr Anabl, neu am y broses ymgeisio, edrychwch ar y cwestiynau cyffredin isod. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi’n chwilio amdano, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt yma.

 

Meysydd y gallai fod gennych gwestiynau amdanynt ar gyfer y Lwfans Myfyrwyr Anabl

Icon_Cashstack

Gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) a'r Adroddiad Asesiad Anghenion (NAR)

Data_hand

Offer technoleg gynorthwyol (AT)

"person on laptop"

Hyfforddiant technoleg gynorthwyol (AT)

Ceisiadau Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) a'r Adroddiad Asesiad Anghenion (NAR)

 

Cliciwch ar y + i weld yr ateb i'r ymholiad:

    Rydych chi’n gymwys os ydych yn byw yn y DU, yn astudio ac yn gymwys i gael cymorth gan SFE/SFW a bod gennych ddiagnosis o gyflwr neu gyflyrau sy'n effeithio ar eich gallu i astudio, y gallwch ddarparu tystiolaeth gan weithiwr proffesiynol meddygol/cymwys ar eu cyfer.

    Enghreifftiau o ddiagnosis o gyflyrau yw:
    •    anhawster dysgu penodol (megis dyslecsia, ADHD neu ddyspracsia)
    •    cyflwr iechyd meddwl neu gorfforol
    •    salwch hirdymor
    •    nam synhwyraidd

    Am fwy o wybodaeth am gymhwysedd DSA, ewch i:
    https://www.gov.uk/disabled-students-allowance-dsa
    https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/

    Gofynnwyd i chi fynychu asesiad anghenion i weithio allan pa gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i'ch helpu yn ystod eich astudiaethau. Yn eich asesiad anghenion, byddwch yn siarad â'ch asesydd anghenion am yr effaith y mae eich anabledd yn ei chael ar eich astudiaethau, eich profiad o unrhyw gefnogaeth rydych eisoes wedi'i chael a manylion eich cwrs. Efallai y bydd eich asesydd anghenion hefyd yn dangos offer neu feddalwedd i chi.

    Ar ôl eich asesiad anghenion, bydd eich asesydd yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer Student Finance England (SFE) neu Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) yn argymell pa gefnogaeth DSA y dylech ei chael. Byddwch yn cael y dewis i adolygu copi drafft o'r adroddiad cyn iddo gael ei anfon at SFE neu SFW, os dymunwch. Unwaith y bydd SFE neu SFW wedi adolygu'r adroddiad, cewch wybod pa gefnogaeth DSA benodol sydd wedi'i chymeradwyo a sut i gael mynediad ati.

    Gellir cwblhau eich asesiad anghenion wyneb yn wyneb neu ar-lein trwy alwad fideo. Byddwn yn gallu darparu ar gyfer pa bynnag opsiwn sydd orau gennych. Byddwch yn cael cynnig detholiad o slotiau amser i ddewis ohonynt.

    Manteision asesiadau wyneb yn wyneb

    Gall fod yn dda mynychu eich asesiad anghenion wyneb yn wyneb os:

    • byddech yn elwa o gael gweld yr offer a’r feddalwedd y gellid eu hargymell yn ffisegol
    • oes gennych signal rhwydwaith/band eang gwael
    • hoffech gael sesiwn mewn lle preifat, heb neb yn tarfu arnoch

    Manteision asesiadau galwad fideo ar-lein

    Gall fod yn dda mynd i'ch asesiad anghenion ar-lein os ydych:

    • yn poeni am deithio
    • yn teimlo'n fwy cyfforddus mewn lle rydych chi'n ei ddewis
    • yn ei chael hi’n anodd siarad am eich anabledd wyneb yn wyneb


    Os na allwch ddefnyddio galwadau fideo ar-lein, gallwch ddewis cael eich asesiad dros y ffôn yn lle hynny.

    Bydd y ffi ar gyfer yr asesiad anghenion yn cael ei didynnu o'ch hawl DSA. Mae hwn yn ffi gynhwysol ac yn cynnwys y gwaith y gallai fod ei angen drwy gydol eich cwrs.

    Dyma'ch caniatâd i Student Finance England (SFE) neu Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) rannu eich gwybodaeth gyda ni.

    Yn ystod y broses ymgeisio, bydd SFE neu SFW yn gofyn i chi am ganiatâd i rannu gwybodaeth gyda ni a fydd yn helpu i ddatblygu eich cais DSA. Bydd hyn yn ein galluogi i gysylltu â chi'n uniongyrchol i drefnu eich asesiad anghenion a'ch cefnogaeth. Os nad ydych yn rhoi caniatâd i rannu, ni fydd SFE na SFW yn gallu cysylltu â ni am eich cais DSA (e.e. os oes ganddynt gwestiynau ynghylch eich cefnogaeth). Yn hytrach, byddant yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi gysylltu'n uniongyrchol.

    Os ydych chi'n anhapus â phenderfyniad y mae Student Finance England neu Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi'i wneud, yna dylech wneud apêl cyn gynted â phosibl. SFE: https://www.gov.uk/guidance/appeals-procedure neu SFW: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cwynion-ac-apeliadau/

    Offer technoleg gynorthwyol (AT)

    Beth yw offer cymeradwy’r Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)?

    Gall offer cymeradwy’r DSA gynnwys y canlynol:

    Meddalwedd
    Caledwedd

    • meddalwedd testun i leferydd
    • meddalwedd arddweud lleferydd
    • meddalwedd cymryd nodiadau
    • meddalwedd iechyd meddwl
    • meddalwedd cynllunio tasgau/strategaethau ymdopi
    • meddalwedd mapio meddwl
    • meddalwedd sgiliau astudio
    • tiwtoriaid teipio
    • meddalwedd gwirio sillafu
    • meddalwedd darllen sgrin a chymorth gweledol

    • recordwyr llais digidol
    • caledwedd cymorth clyw
    • caledwedd cymorth testun

    Hyfforddiant technoleg gynorthwyol (AT)

    Cliciwch ar y + i weld yr ateb i'r ymholiad:

      Gellir cynnal pob agwedd ar daith y cwsmer yn Gymraeg os oes angen. Bydd hyn yn cael ei sefydlu yn eich proses gofrestru, ac mae posib i chi newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg.

      Bydd nifer yr oriau o hyfforddiant sydd eu hangen yn cael eu pennu yn ystod eich asesiad anghenion.

      Mae'r sesiwn gyntaf fel arfer yn drosolwg llawn manwl a bydd unrhyw sesiynau dilynol yn dibynnu ar eich gofynion a gofynion eich cwrs.

      Cysylltwch â ni i godi cais a bydd angen i unrhyw sesiynau ychwanegol gael eu hawdurdodi gan Student Finance England neu Cyllid Myfyrwyr Cymru.

      Os na allwch fynd i’ch sesiwn, rhowch wybod i ni o leiaf 24 awr ymlaen llaw. Byddwch yn derbyn negeseuon atgoffa cyn y sesiwn. Mae'n ofynnol i ni gasglu a chofnodi manylion yr holl apwyntiadau sy’n cael eu methu neu eu canslo at ddibenion adrodd. Bydd hyn yn cael ei rannu gyda Cyllid Myfyrwyr. Efallai y codir ffi ar eich Lwfans Myfyrwyr Anabl, am uchafswm o ddau apwyntiad sydd wedi’u methu neu eu canslo os rhoddir llai na 24 awr o rybudd.

      Byddwn yn rhoi gwybod i chi faint o oriau rydych wedi'u defnyddio a faint sy'n weddill.

      Cysylltu â ni

      Os oes angen cyngor neu gefnogaeth arnoch ar unrhyw gam o'r broses, cysylltwch â:

      Ar-lein

      Cofiwch, peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol, fel eich dyddiad geni neu’ch cyfeiriad cartref.

      Ffonio

      Gallwch ein ffonio ar 01823 273060 rhwng 9am a 5.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

      Logio ymholiad ôl-asesiad

      Os ydych wedi cael eich asesu gan Contact Associates gallwch logio ymholiad ôl-asesiad.

      E-bost

      Gallwch anfon e-bost at ein tîm yn uniongyrchol.

      Am fwy o wybodaeth am wneud cais am DSA, ewch i Student Finance England  neu Cyllid Myfyrwyr Cymru

       

      Cysylltiadau defnyddiol eraill

      Sut i wneud sylw neu gŵyn am ein gwasanaeth
      Dywedwch wrthym os ydych yn anhapus gydag unrhyw ran o'n gwasanaeth fel y gallwn geisio ei gywiro. Mae hyn yn ein helpu i ddeall beth rydym yn ei wneud yn dda a lle mae angen i ni wneud pethau'n well.

      Sut i gysylltu â Cyllid myfyrwyr neu Student Finance:

      Student Finance England (SFE)
      Ebost: dsa_team@slc.co.uk 
      Ffôn: 0300 100 0607 
      NGT text relay (os na allwch glywed / siarad ar y ffôn): 18001 yna 0300 100 0607
      Gwefan: https://www.gov.uk/contact-student-finance-england

      Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW)
      E-bost: SFW_DSA_Team@slc.co.uk
      Ffôn: 0300 200 4050
      Gwefan: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cysylltwch/

      Darparwyr Addysg Uwch
      Os ydych chi'n dod o ddarparwr addysg uwch a bod gennych ymholiad ar gyfer tîm DSA Capita, anfonwch e-bost at ein mewnflwch pwrpasol: DSAHEPManager@capita.com

      Scroll Top