Mae Capita plc yn gweithio gyda'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) i gynnal asesiadau anghenion astudio Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ac i ddarparu offer a hyfforddiant technoleg gynorthwyol, gan eich cefnogi i ffynnu mewn addysg uwch.
Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl yn gymorth ariannol heb brawf modd i fyfyrwyr mewn addysg uwch. Mae'n cwmpasu'r costau sy'n gysylltiedig ag astudio a allai fod gennych oherwydd cyflwr iechyd meddwl, salwch hirdymor neu anabledd arall. Gallai'r gefnogaeth gynnwys technoleg, offer a hyfforddiant arbenigol. Gellir ei ddefnyddio hefyd i dalu am gymorth anfeddygol, fel mentora arbenigol neu gymorth sgiliau astudio arbenigol, a theithio.
Byddwn yn mynd â chi drwy'r broses, o gynnal eich asesiad anghenion astudio ac argymell cymorth, i gyflwyno'ch offer a darparu hyfforddiant. Bydd ein haseswyr sydd wedi'u hyfforddi'n yn cynnal asesiad proffesiynol, gan ei gwneud yn glir beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni a beth sydd angen i chi ei wneud. Byddwn yn gwneud ein gorau i wneud ein gwasanaeth yn hawdd ei ddefnyddio a byddwn yn gwrando arnoch ac yn sicrhau eich bod yn teimlo'n gyfforddus.
Rydym yn darparu cymorth i fyfyrwyr Cyllid Myfyrwyr Lloegr (SFE) a Chyllid Myfyrwyr Cymru (SFW) yn: Cymru, Canolbarth Lloegr, Llundain, Dwyrain Lloegr a Gogledd Iwerddon. Os ydych yn byw y tu allan i'r rhanbarthau hyn, cysylltwch â'r darparwr cyllid myfyrwyr perthnasol.
Mae ein proses wedi'i chynllunio i fod yn syml, yn gyfleus ac yn effeithlon. Gallwch wneud cais yn hawdd o’ch cartref.
Nid oes angen i chi gael lle addysg uwch wedi'i gadarnhau cyn i chi wneud cais am DSA ac rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl, fel bod gennych gefnogaeth ar waith cyn i'ch cwrs ddechrau. Fodd bynnag, gallwch wneud cais ar unrhyw adeg yn ystod eich astudiaethau.
Gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA)
Archebwch a mynychwch eich asesiad anghenion
Cael mynediad i'ch cefnogaeth a'ch hyfforddiant
Mae tri cham allweddol i'r broses DSA - cliciwch + i ddarganfod mwy
Cwestiynau Cyffredin Lwfans Myfyrwyr Anabl
Oes gennych chi gwestiwn? Rhowch gynnig ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin yn gyntaf.
Os oes angen cyngor neu gefnogaeth arnoch ar unrhyw gam o'r broses, cysylltwch:
Ar-lein
Cofiwch, peidiwch â darparu unrhyw wybodaeth bersonol, fel eich dyddiad geni neu gyfeiriad cartref.
Ffôn
Gallwch ein ffonio ar 08000 902551 rhwng 9am a 5:30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
E-bost
Gallwch anfon e-bost at ein tîm yn uniongyrchol.
SYLWER: Os cawsoch eich asesu cyn 26 Chwefror 2024, a’ch bod wedi derbyn eich cefnogaeth DSA a bod gennych ymholiad, rydym yma i'ch cefnogi. Cysylltwch â ni drwy e-bost admin@contact-associates.co.uk.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am DSA, ewch i Student Finance England neu Cyllid Myfyrwyr Cymru
Cysylltiadau defnyddiol eraill
Porth myfyrwyr Capita DSA
Mae hwn yn borth ar-lein lle gall yr holl fyfyrwyr sy'n derbyn gwasanaethau DSA gan Capita olrhain a rheoli eu hapwyntiadau, archebion, a hyfforddiant DSA ayyb.
Cofnodi ymholiad ôl-asesiad
Os ydych wedi cael eich asesu a bod gennych gwestiynau, gallwch gofnodi ymholiad ôl-asesiad.
Sut i gysylltu â Chyllid Myfyrwyr:
Cyllid Myfyrwyr Lloegr (SFE)
E-bost: dsa_team@slc.co.uk
Ffôn: 0300 100 0607
NGT Text relay (os na allwch glywed / siarad ar y ffôn): 18001 ac yna 0300 100 0607
Gwefan: https://www.gov.uk/contact-student-finance-england
Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFW)
E-bost: SFW_DSA_Team@slc.co.uk
Ffôn: 0300 200 4050
Gwefan: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cysylltwch/
Nod Capita DSA yw darparu'r gwasanaeth o'r safon uchaf bob amser. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno gwneud cwyn, gallwch wneud hynny dros y ffôn, ar-lein, drwy e-bost, neu drwy'r post.
Bydd cwynion yn cael eu cydnabod drwy e-bost o fewn dau ddiwrnod gwaith o'r dyddiad a dderbyniwyd.
Yna cynhelir ymchwiliad trylwyr a llawn mewn modd proffesiynol, teg ac di-wrthdaro. Bydd Capita DSA yn ceisio datrys cwynion, gan gyhoeddi ymateb llawn a therfynol i'r achwynydd, o fewn 10 diwrnod gwaith o’i dderbyn. Os oes angen amser ychwanegol, byddwn yn hysbysu'r achwynydd drwy e-bost, gan roi'r rheswm dros yr oedi cyn cyhoeddi'r ymateb llawn.
Mewn achosion lle mae'r achwynydd yn anhapus â phenderfyniad Capita DSA, gellir fynd a’r cwyn ymhellach i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Ar-lein
Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar borth myfyrwyr Capita DSA, os oes gennych un, a dilynwch y broses gwyno.
Cofiwch, peidiwch â darparu unrhyw wybodaeth bersonol, fel eich dyddiad geni neu gyfeiriad cartref.
Ffôn
Gallwch ein ffonio ar 0800 090 2551 rhwng 9am a 5:30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
E-bost
Gallwch anfon e-bost at ein tîm yn uniongyrchol.
Post
Ysgrifennwch atom yn Capita DSA, Disabled Student Allowance, PO Box 648, Darlington, DL1 9HU. Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad e-bost.
Mae rhagor o fanylion am y broses gwyno SLC ar gael yma: Proses Cwynion SLC
Gwybodaeth i ddarparwyr addysg uwch (HEPs)
Mae cyfathrebu a chysylltu ag HEPs yn hanfodol er mwyn sicrhau bod taith myfyrwyr drwy'r broses cais ac asesu anghenion DSA mor esmwyth â phosibl.
Mae dau Reolwr Cyswllt HEP pwrpasol ar waith i sicrhau cyfathrebu di-dor ac amserol rhyngom ni a sefydliadau addysgol i helpu myfyrwyr i dderbyn y cyngor a'r gefnogaeth orau drwyddi draw.
Hysbysiad Preifatrwydd:
I gael gwybodaeth am sut mae Capita DSA yn casglu ac yn prosesu eich data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.